Platfform
Nosweithiau anffurfiol a chyfeillgar i drafod popeth socials - rhwydweithio, dysgu a sgwrsio dros ddiod.
Nosweithiau anffurfiol a chyfeillgar i drafod popeth socials - rhwydweithio, dysgu a sgwrsio dros ddiod.
Mae Platfform yn gyfres o nosweithiau anffurfiol a chyfeillgar ledled Cymru wedi'u trefnu gan Social Media Conference Cymru.
Dim pwysau. Dim siwt a thei. Dim sleidiau corfforaethol.
Dim ond pobl go iawn yn siarad am y pethau go iawn sy'n digwydd yn y byd cyfryngau cymdeithasol - yr heriau sy'n cadw ni'n effro, y llwyddiannau bach sy'n teimlo'n fawr, a'r syniadau sydd angen lle diogel i dyfu.
Dewch draw. Gadewch i ni greu rhywbeth gyda'n gilydd.
Os ydych chi'n postio, yn cynllunio, neu'n poeni am gyfryngau cymdeithasol - mae hwn i chi.
Dim ots os ydych chi'n rhedeg cyfrif cwmni mawr, yn marchnata'ch busnes bach eich hun, neu'n gyfrifol am gyfryngau cymdeithasol elusen leol. Os ydych chi eisiau dysgu, rhannu, a chysylltu gyda phobl eraill sy'n deall yr un heriau, dewch draw.
Mae croeso i bawb.
🗓️ Nos Iau, 20 Tachwedd 2025
📍 Jac Y Do, Caernarfon
🎟️ Tocyn £22.50
6yh - Croeso! Dewch mewn o'r oerfel am ddiod a sgwrs.
6.30yh - Sgwrs banel: Dod â digwyddiadau'n fyw ar y cyfryngau cymdeithasol
Sgwrs a Q+A gyda Lois Eckley - Eisteddfod yr Urdd, a Deio Jones - S4C.
7yh - Sgwrs banel: Bach ond pwerus - marchnata busnesau bach
Sgwrs a Q+A gyda Sioned Young - Mwydro, a'r artist Lisa Eurgain.
7.30yh - Hysbysebion cyfryngau cymdeithasol - ble i ddechrau?
Cyflwyniad a Q+A gydag Elan Iâl - Libera.
7.45yh - Cyflwyniad i waith Mentera ar y cyfryngau cymdeithasol
Cyflwyniad a Q+A gyda Celyn Williams - Mentera.
8yh - Aros am un arall? Cyfle i sgwrsio tra bydd y bar ar agor
Digwyddiad cyfrwng Cymraeg fydd hwn. This is a Welsh language event.
Creu economi lewyrchus i Gymru, wedi’i gyrru gan fusnesau llwyddiannus.
Mae Mentera'n hynod falch o noddi'r digwyddiad hwn yn y Gogledd, lle mae gennym ddwy swyddfa a chysylltiadau cryf. Gyda thros 35 mlynedd o brofiad o gefnogi busnesau Cymru, rydym yn credu'n gryf fod cyfathrebu digidol a marchnata o'r radd flaenaf yn allweddol i sicrhau bod busnesau lleol yn cyrraedd safon fyd-eang, gan arwain at economi ffyniannus i Gymru.
Jac Y Do, 1 Stryd y Farchnad, Caernarfon LL55 1RT