Cyfle i gael eich brand o flaen cynulleidfa newydd.
Mae gennym nifer cyfyngedig o becynnau nawdd ar gael. Cysylltwch â ni os oes gennych ddiddordeb noddi Social Media Conference Cymru 2026. Dyma gyfle i sicrhau tocynnau ar gyfer eich tîm neu gleientiaid a chael eich brand o flaen cynulleidfa berthnasol i'ch cwmni. Mae ein noddwyr gorffennol yn cynnwys S4C, VEED, Mentera, Hello Starling, Hugh James, Orchard, Tinopolis a llawer mwy.
Rhannwch eich angerdd a'ch arbenigedd.
Rhannwch astudiaeth achos, cyflwynwch syniad neu rhowch eich barn mewn trafodaeth banel. Mae sawl ffordd o gymryd rhan ac ry'n ni'n croesawu pob awgrym - mawr a bach.
Sicrhewch eich lle i arddangos eich brand, eich cynhyrchion ac i feithrin perthynas â'ch cynulleidfa darged.
Oes gennych chi syniadau ar sut i wneud SMC Cymru yn well fyth? Ry’n ni’n chwilio am griw bach o bobl i gyfrannu at siapio cynhadleddau'r dyfodol wrth rannu eu syniadau, ac fe gewch chi docyn am ddim ar gyfer 2026.