SOCIAL MEDIA CONFERENCE CYMRU
SOCIAL MEDIA CONFERENCE CYMRU
Ry'n ni'n un o'r cynadleddau cyfryngau cymdeithasol mwyaf yn y DU. Os yw eich gwaith yn cyffwrdd y cyfryngau cymdeithasol, ry'n ni'n ddigwyddiad i chi. Digwyddiad i gasglu cannoedd o unigolion ynghyd ar gyfer diwrnod o sgyrsiau, trafodaethau a sesiynau holi ac ateb gan arweinwyr ym meysydd marchnata, y cyfryngau a chyfathrebu.
Yng nghynhadledd 2025 fe glywodd y gynulleidfa gan sefydliadau gan gynnwys:
YouTube
BBC
National Trust
Hair Syrup
Llywodraeth Cymru
ar bynciau fel:
How to use behavioural science to make your marketing more persuasive gyda Shayoni Lynn, sylfaenydd a Phrif Weithredwr o gwmni cyfathrebu gwyddoniaeth ymddygiadol, Lynn
Why your audience don’t remember your message and the simple solution gyda Hannah Isted, sylfaenydd HI Communications, yn symleiddio marchnata i fusnesau bach
The legal side of social media and the risks you may already be taking without knowing gydag Ilan Jones, cyfreithiwr yng nghwmni cyfreithiol Hugh James, a Rob Light, Cyfarwyddwr Cynhyrchiadau Creadigol a Rhaglenni Teledu yn yr asiantaeth farchnata arobryn, Orchard.
Mae Social Media Conference Cymru yn ddigwyddiad bywiog ac yn ofod diogel ar gyfer dysgu, tanio ysbrydoliaeth a meithrin cysylltiadau rhwng cannoedd o unigolion ym meysydd marchnata, cynnwys a chyfryngau cymdeithasol.
Byddwch yn gadael gydag awgrymiadau arbenigol, ysbrydoliaeth newydd a syniadau ymarferol i roi bywyd newydd i'ch ymdrechion ar y cyfryngau cymdeithasol.
BBC
ITV
S4C
Llywodraeth Cymru
Orchard
Rondo
Tinopolis
Scarlets
Sport Wales
Cymdeithas Bêl-droed Cymru
Dŵr Cymru
WWF
Tiny Rebel
Prifysgol Caerdydd
Prifysgol Met Caerdydd
Prifysgol Aberystwyth
Prifysgol Abertawe
Coleg Cymraeg Cenedlaethol
JP Morgan Chase
West Wales Holiday Cottages
Heddlu De Cymru
NHS Cymru
Eisteddfod Genedlaethol
Urdd Gobaith Cymru
Golwg
National Trust
Trafnidiaeth Cymru
Equinox
Bright Collie
Millrace Marketing
WCS Agency
Freshwater
Amgueddfa Cymru
Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Senedd Cymru
...a llawer mwy.
Mae Hello Starling yn asiantaeth cynllunio a phrynu cyfryngau wedi'i lleoli yng Nghaerdydd. Maent yn cynllunio ac yn cynnal ymgyrchoedd ar draws teledu, radio, awyr agored, y wasg, digidol a chymdeithasol, gan gysylltu brandiau â'r bobl gywir, yn y lle cywir, ar yr amser cywir - maent yn bartner dibynadwy, sy'n canolbwyntio ar gyflawni'r canlyniadau pwysig.
Mae Ymddiried wedi cyllido 25 o docynnau am ddim i fyfyrwyr a graddedigion newydd yn y diwydiant ar gyfer SMC Cymru 2025.
Cwmni cynhyrchu fideo Cymreig sy'n cael ei yrru gan stori sydd wedi'i leoli yng Ngorllewin Cymru.
Mae Orchard yn asiantaeth farchnata integredig llwyddiannus sydd wedi'i lleoli yng Nghaerdydd.
Darlledwr cenedlaethol Cymru, yn cynhyrchu a chyhoeddi cynnwys ar blatfformau llinol a digidol.
Platfform creu fideos ar-lein sy'n cael ei bweru gan AI i wneud creu fideos yn hawdd ac yn hygyrch i bawb.
Cwmni marchnata a chyfryngau sy'n arbenigo mewn strategaeth a chynnwys digidol ar gyfer teledu a diwylliant.
Libera sydd hefyd yn trefnu Social Media Conference Cymru.
Cwmni creadigol sy’n cynnig gwasanaeth Cymreig a Chymraeg ac yn creu ymgyrchoedd dwyieithog sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ledled Cymru.
Grŵp cynhyrchu a dosbarthu cynnwys rhyngwladol â’i phencadlys yn Llanelli yn cynhyrchu 4,500+ o oriau bob blwyddyn.
Un o gwmnïau diodydd meddal mwyaf blaenllaw Cymru, yn gwerthu dros 400 miliwn o ddiodydd bob blwyddyn.
Brand gofal gwallt llwyddiannus sy'n adnabyddus am ei olewau gwallt holl-naturiol heb greulondeb wedi'i leoli yn Sir Benfro.
Mae Hugh James yn gwmni cyfreithiol gwasanaeth llawn blaenllaw o Gaerdydd.
Barn y gymuned
"Gwreiddiol. Proffesiynol. Diddanol. Wedi mwynhau'n fawr y cyfle i drafod cyfryngau cymdeithasol o safbwynt Cymreig a rhannu arferion da gan rai o arbenigwyr mwyaf blaenllaw Cymru yn y maes."
"Roeddwn i wrth fy modd gyda'r amrywiaeth. Roeddech chi'n ymdrin â'r sector cyhoeddus, di-elw a masnachol. Rwy'n aml yn gweld bod y mathau hyn o bethau wedi'u hanelu at fuddiannau masnachol, felly roedd yn braf gweld y cyfan yn cael sylw. Mae gan bob diwydiant wersi ar gyfer eraill felly rwy'n siŵr bod pawb wedi cymryd rhywbeth i ffwrdd."
"Roedd y siaradwyr mor ddiddorol, nes i ddysgu llawer, roedd hefyd yn wych dysgu bod gan lawer ohonom yr un rhwystrau - digwyddiad gwych."
Ymunwch â'r rhestr aros i glywed am Social Media Conference Cymru 2026
Does dim angen talu a dim ymrwymiad i brynu o ymuno â'r rhestr aros, ond byddwch y cyntaf i glywed am ein digwyddiad nesaf a chael mynediad cynnar pan fydd tocynnau'n lansio ✨