Pwy ymddangosodd ar y llwyfan, pwy rannodd eu straeon, a phwy sbardunodd sgyrsiau yn Social Media Conference Cymru 2025 ar 30 Medi 2025.
Diolch yn fawr iawn i'n noddwyr sy'n ei gwneud hi'n bosib i ni groesawu rhai o'r siaradwyr anhygoel yma i lwyfn SMC Cymru. Diolch yn arbennig i'n prif noddwyr ar gyfer 2025, yr asiantaeth prynu a threfnu cyfryngau lleol, Hello Starling.
8:45AM Pastries, coffee and registration 🥐
9:45AM Welcome
9:55AM Fireside: How To Grow A Following (And Why You Need One) - Jessie Hallett, Social Stream
10:20AM Beyond Gut Instinct: The Behavioural Science Secrets Behind Marketing That Actually Works - Shayoni Lynn, Lynn Group
10:50AM How You Can Make the Most of YouTube in a Changing Content Landscape - Tomos Grace
11:15AM Networking and Coffee Break ☕️
11:40AM National Trust: Preserving Legacy While Engaging New Audiences - Danyele Higgins, National Trust
12:10PM Fireside: What Brands Can Learn From Creators - Cerys Atkin (Cardiff Lovelist)
12:35PM Yes! People Actually Use LinkedIn For Brand Marketing (Here's How) - Gus Bhandal
1:00PM Lunch and Networking 🍽️
2:25PM The Social Shift: What's Breaking, What's Emerging, and How to Stay Ahead - Matthew Sweet, Head of Sales, VEED; Dayana Collazos Ibarra, Social Media Executive, The Folio Society; Sheeza Anjum, Director at Speak Social
3:00PM Why Your Audience Don't Remember Your Message And The Simple Solution - Hannah Isted, HI Communications
3:30PM Networking and Coffee Break ☕️
4:00PM Digital Footprint: Do You Know Your Marketing's Environmental Impact? - Hannah Peckham, Zero
4:25PM Storytelling That Sells, EGC and Viral Moments - Lucie Macleod, Hair Syrup
5:00PM Wrap Up and Networking Drinks 🥂
11:40AM Masterclass: Newbies Guide to Content Creation (English) - Cerys Davage, Unbalanced
12:10PM Panel: What You Need To Know About Building And Managing A Social Team - Seb Hains (Welsh Government), Dan Kelsall (BBC)
12:35PM Prove Social Media ROI In A Way Managers Will Actually Care About - Daniel Bagby, Meltwater
2:25PM Dosbarth Meistr: Creu Cynnwys - Ble i ddechrau? (Cymraeg) - Cerys Davage, Unbalanced
3:00PM Panel: Will This Get Past Legal? - Ilan Jones (Hugh James), Rob Light (Orchard)
*All agenda timings subject to change
Mae tirwedd cynnwys digidol y DU yn parhau i newid ac mae tueddiadau ymddygiad defnyddwyr yn esblygu'n gyflym. Felly, ble mae YouTube yn ffitio i mewn? Mae'r sesiwn hon yn trafod sut mae cynulleidfaoedd yn defnyddio YouTube heddiw, beth sy'n gwneud Shorts a "Search" mor bwerus, a sut y gall brandiau a chrëwyr Cymreig gael effaith. Byddwn hefyd yn herio rhagdybiaethau am gyllideb, cynulleidfa ac iaith.
P'un a ydych chi'n ddarlledwr, yn fusnes, neu'n grëwr annibynnol, byddwch chi ddim am golli'r sesiwn yma.
Pwyntiau allweddol:
Dysgwch sut y gall YouTube Shorts a ffocws ar chwilio gynyddu eich cyrhaeddiad.
Cewch fewnwelediadau defnyddiol ar sut y gall tueddiadau defnyddwyr eich helpu i lunio eich dyfodol ar YouTube.
Clywch am sut y gallwch chi wneud i gynnwys Cymraeg a dwyieithog sefyll allan a chael ei weld.
Tan yn gynharach y mis yma, Tomos Grace oedd Pennaeth Cyfryngau a Chyfrifoldeb YouTube ar gyfer Ewrop, y Dwyrain Canol ac Affrica. Roedd ei dîm yn gyfrifol am yrru strategaeth YouTube ar gyfer y rhanbarth, yn ogystal ag arwain y prosiectau mwyaf ar draws Newyddion, Dinesig, Plant, Teledu a Chwaraeon. Roedd y prosiectau hyn yn amrywio o Gwpan y Byd FIFA i'r etholiadau Ewropeaidd mwyaf. Mae'n aelod o Dîm Arweinyddiaeth YouTube EMEA.
Cyn ymuno â YouTube, treuliodd Tomos un mlynedd ar ddeg ym Mharis lle bu'n gweithio mewn Strategaeth Gorfforaethol gyda Grŵp Canal+, yn rheoli trafodaethau sianel ar gyfer CANALSAT ac yn Bennaeth Datblygu Busnes (ac yn sylwebydd rygbi achlysurol) ar gyfer Grŵp Eurosport.
Mae Tomos yn wreiddiol o Gaerdydd lle mynychodd Ysgol Glantaf.
Mae Hair Syrup wedi bod yn frand sydd ar ffrydiau pawb yn ddiweddar ar ôl ymddangosiad y sylfaenydd Lucie ar Dragon’s Den ym mis Chwefror 2025; profiad a ddefnyddiodd y brand mewn ffordd llwyddiannus er mwyn creu cynnwys hynod ddiddorol a feiral, er gwaethaf gadael y den heb unrhyw fuddsoddiad gan y dreigiau. Yn union fel mae'r brand yn cymryd ymagwedd agored a thryloyw iawn ar gyfryngau cymdeithasol, bydd Lucie yn ein tywys i'r meddwl y tu ôl i sut y defnyddiodd y brand eu profiad Dragon’s Den i gynyddu eu heffaith ar y cyfryngau cymdeithasol ac yn bwysicaf oll, hybu busnes.
Prif bwyntiau:
Ydych chi'n cysgu ar gynnwys gan weithwyr? (EGC) Sut i ddechrau a pham mae'n gweithio.
Sut mae adrodd straeon da ar gyfryngau cymdeithasol a sut i ddod o hyd i'ch stori i'w rhannu.
Y cynnwys sy'n gweithio a'r cynnwys i'w osgoi yn 2025.
Lucie Macleod yw sylfaenydd a Phrif Weithredwr Hair Syrup, brand gofal gwallt llwyddiannus sy'n adnabyddus am ei olewau gwallt holl-naturiol, heb greulondeb.
Wedi'i lleoli yn Sir Benfro, Cymru, dechreuodd Lucie ei thaith entrepreneuraidd yn 2019 pan oedd hi'n fyfyrwraig ym Mhrifysgol Warwick. Ar ôl cael trafferth gyda'i gwallt ei hun o ganlyniad i steilio a channu, dechreuodd ymchwilio a datblygu triniaethau gwallt DIY i wella iechyd ei gwallt. Fe weithiodd yr olewau a greodd mor dda nes iddi rannu ei threfn gofal gwallt ar TikTok, lle aeth ei chynnwys yn feiral, a chadwodd hi ati.
Wedi hyn, dechreuodd Lucie werthu ei chynhyrchion, ac o fewn ychydig fisoedd yn unig, daeth Hair Syrup yn fusnes ar-lein llewyrchus. Heddiw, mae ei brand yn cael ei stocio mewn manwerthwyr mawr fel Boots, Superdrug, Urban Outfitters a Beauty Bay; Mae Hair Syrup yn un o'r 3 masnachwr SMB gorau ar TikTok ac mae ar y trywydd iawn i wneud £6.5 miliwn mewn refeniw blynyddol erbyn 2026 gyda chymorth ei thîm o 15+ o bobl sy'n parhau i dyfu y tu ôl iddi.
Er ei llwyddiant cyflym, mae Lucie yn parhau i fod yn weithredol o fewn ei chwmni, gan helpu'n aml gyda phecynnu a gweithrediadau. Mae hi'n angerddol am brofi y gall llwyddiant ddod o ardaloedd bach, gwledig fel Sir Benfro, gan herio'r disgwyliad bod yn rhaid i entrepreneuriaid symud i ddinasoedd mawr.
Sgwrs onest gyda Jessie Hallett am beth sy'n gweithio wrth adeiladu cynulleidfa heddiw. Dim nonsens, dim ond strategaethau ymarferol ar sut i greu cymunedau ymgysylltiedig.
Prif bwyntiau:
Y fformatiau cynnwys sy'n cynyddu nifer eich dilynwyr.
Camgymeriadau cynnydd cyffredin sydd hefyd yn cael eu gwneud gan frandiau profiadol.
Sut gallwch ddatblygu dilynwyr i fod yn rhan ymgysylltiedig o'ch cymuned.
Mae Jessie Hallett yn ddylanwadwraig cyfryngau cymdeithasol sy'n ffocysu ar les. Hi yw sylfaenydd Social Stream, asiantaeth cyfryngau cymdeithasol llewyrchus, sydd wedi ei leoli yng Nghaerdydd. Yn angerddol am greu cysylltiadau gwreiddiol ar lein, mae wedi cydweithio gyda brandiau blaenllaw megis Coca-Cola, Schweppes, Betty Buzz (brand Blake Lively) a BrewDog.
Yn ogystal â'i llwyddiant proffesiynol, caiff Jessie ei hadnabod am rannu ei siwrne personol. Ar ôl cyfnod tywyll yn ei bywyd yn 2022, ar ôl colli ei swydd, cyfnodau yn yr ysbyty a chael perthynas niweidiol ag alcohol, gwnaeth y penderfyniad i fynd yn sobor ym mis Tachwedd y flwyddyn honno. Ers hynny, mae wedi profi trawsnewidiad personol anhygoel, gan gynnwys colli 5 stôn o bwysau, tra'n adeiladu cymuned lles cefnogol ar lein.
Mae ei stori ysbrydoledig wedi cael ei adrodd gan y BBC, Lad Bible, Daily Mail a The Independent, lle mae'n defnyddio ei phlatfform i gymell eraill ar eu siwrne at fywyd gwell.
Mae asiantaeth cyfryngau cymdeithasol Jessie yn parhau i ffynnu, yn denu brandiau lletygarwch poblogaidd a chleientiaid proffil uchel tra hefyd yn tyfu cynulleidfa ei hun.
LinkedIn yw'r platfform mwyaf yn y byd gyda ffocws busnes, gydag aelodaeth wedi croesi un biliwn o bobl eleni. Bydd Gus yn dangos i ni sut i harneisio pŵer LinkedIn i dyfu ein brandiau personol a chwmnïau a pham ei bod hi'n bwysig cael y ddau yn iawn i greu llwyddiant hirdymor a chynaliadwy ar y platfform.
Pwyntiau allweddol:
Beth sy'n gweithio (a ddim yn gweithio) ar LinkedIn ar hyn o bryd.
Astudiwch esiamplau o farchnata brandiau llwyddiannus ar y platfform.
Dysgwch sut ddylai brandiau fod yn defnyddio LinkedIn yn 2025.
Mae Gus yn hyffordwr LinkedIn, arbenigwr cyfryngau cymdeithasol, strategwr marchnata hynod o brofiadol a sylfaenydd asiantaeth marchnata digidol 'The M Guru'.
Ers y 90au hwyr, mae Gus wedi bod yn rhan o'r byd marchnata ac mae wedi gweld LLAWER o newidiadau yn y byd marchnata megis ymgyrchoedd hysbysebu aml-sianel, dechreuad cyfryngau cymdeithasol a chynnydd cyflym deallusrwydd artiffisial.
Yn benodol, mae Gus wedi gweithio ar strategaethau marchnata ac ymgyrchoedd LinkedIn am nifer o flynyddoedd ac wedi helpu miloedd o sefydliadau - o fasnachwyr unigol i gorfforaethau byd-eang ar draws ystod o sectorau - i ddefnyddio, tyfu a chreu llwyddiant cynaliadwy hirdymor ar y platfform.
Gan dynnu ar ymchwil arloesol ac astudiaethau achos o'r byd go iawn, mae Shayoni yn dangos sut y gall newidiadau bach sydd wedi'u gwreiddio mewn gwyddor ymddygiad wella perfformiad ymgyrchoedd yn sylweddol a gwthio cwsmeriaid i weithredu.
Pwyntiau allweddol:
Dysgwch sut mae rhagfarnau ymddygiadol yn dylanwadu ar benderfyniadau defnyddwyr.
Darganfyddwch dechnegau ymarferol i gymhwyso mewnwelediadau ymddygiadol yn foesegol i'ch ymgyrchoedd marchnata.
Y newidiadau i annog eich cynulleidfa i gymryd camau gweithredu.
Shayoni Lynn yw Prif Weithredwr a Sylfaenydd yr ymgynghoriaeth Lynn Group – un o’r 50 asiantaeth orau yn y DU (Gwobrau Provoke SABRE, 2025).
Mae hi’n Gymrawd o’r Sefydliad Siartredig Cysylltiadau Cyhoeddus (CIPR) a’r Gymdeithas Cysylltiadau Cyhoeddus a Chyfathrebu (PRCA) ac mae’n Gadeirydd PRCA Cymru.
Mae Shayoni wedi’i rhestru yn y PRWeek Power Book (2021-Presennol) – y rhestr o’r gweithwyr cyfathrebu proffesiynol mwyaf dylanwadol a pharchus yn y DU. Yn 2025, roedd hi ar dair rhestr arbenigol – y 25 menyw fwyaf dylanwadol mewn cysylltiadau cyhoeddus yn y DU, y 10 arweinydd cysylltiadau cyhoeddus gorau y tu allan i Lundain, a hyrwyddwr amrywiaeth, ecwiti a chynhwysiant (fel cyd-sylfaenydd Asian Communications Network).
Mae Shayoni yn aelod o Fwrdd Cysylltiadau Cyhoeddus a Chyfathrebu PRCA, yn aelod o Banel Mewnwelediadau Ymddygiadol CIPR, yn aelod o Banel Arbenigwyr ESG CIPR, ac yn aelod o Dasglu Gwybodaeth Gamarweiniol ICCO, ynghyd â Chyngor Ewrop, The Trust Project, EACD, GWPR ac EUPRERA.
Mae Shayoni yn gyd-sylfaenydd a Chadeirydd Bwrdd Rhwydwaith Cyfathrebu Asiaidd, ochr yn ochr â Phrif Swyddog Gweithredol CommsRebel Advita Patel, a Phrif Swyddog Gweithredol Curzon PR Farzana Baduel.
Yn 2025, mae Shayoni yn arwain menter (pro-bono) ledled y diwydiant i ddeall cydraddoldeb rhywedd mewn Cysylltiadau Cyhoeddus a Chyfathrebu yn fwy gyda chefnogaeth 100 o ymarferwyr, o'r enw 'Torri'r Silence', gyda Lynn Group yn darparu mewnwelediadau ymchwil sylfaenol.
Mae Shayoni wedi derbyn Gwobr Mark Mellor am Gyfraniad Rhagorol i'r Diwydiant, yn ogystal â Gwobrau PRCA am Gyfraniad Rhagorol yn ystod COVID-19 a Gweithiwr Proffesiynol y Flwyddyn. Yn 2023, ymddangosodd ar restrau Global 15 to Watch ac Innovator 25 EMEA gan PRovoke Media, ar restr Top 20 Global Indians gan Reputation Today, a dyfarnwyd Gwobr Cyfarwyddwr Busnesau Newydd y Flwyddyn "Institute of Directors" (IoD) iddi yn 2023.
Yng Nghymru, mae Shayoni yn Ymddiriedolwr i Sefydliad Materion Cymru ac yn Aelod Annibynnol o Fwrdd Teithio Egnïol Cymru, gan gefnogi mentrau trafnidiaeth egnïol a chynaliadwy ehangach.
Rhybudd: Fe wnewch chi adael y sesiwn yma gyda llwyth o syniadau a hyder newydd yn eich marchnata cyfryngau cymdeithasol! Yn y sgwrs ymarferol hon, dysgwch sut i adeiladu presenoldeb cynaliadwy ar y cyfryngau cymdeithasol sydd ddim yn cymryd oriau o'ch diwrnod. Byddwch yn cerdded i ffwrdd yn teimlo'n ffres gyda systemau syml i gynnal strategaeth gyson a hyder newydd yn eich gwaith ar y cyfryngau cymdeithasol.
Pwyntiau allweddol:
Pam nad yw eich cynulleidfa yn cofio eich neges a'r ateb syml.
Sut i arbed amser gyda'ch marchnata cyfryngau cymdeithasol a chael mwy allan o'ch cynnwys.
Awgrymiadau ymarferol i wella eich marchnata yn sydyn.
Hannah Isted yw sylfaenydd HI Communications, sy'n cefnogi perchnogion busnesau bach gyda'u marchnata.
Hi yw awdur The Best 90 Days Ever, llyfr ac aelodaeth farchnata sy'n rhannu awgrym cyflym, dyddiol sy'n dangos i fusnesau sut i hyrwyddo'r hyn maen nhw'n ei wneud mewn dim ond 10 munud y dydd a'i wneud yn syml, yn hawdd ac yn hwyl.
Mae hi wedi gweithio gyda channoedd o berchnogion busnesau bach, gan eu helpu i gynyddu eu presenoldeb ar-lein trwy ei haelodaeth, cyrsiau a gweithdai. Yn ei chylchlythyr e-bost a'i phodlediad The Social Sunday, mae hi'n rhannu cyngor marchnata i helpu busnesau cynnyrch a gwasanaeth i hyrwyddo eu hunain yn gyson.
Sesiwn sydd wedi ei ddylunio'n arbennig ar gyfer rheolwyr ac arweinwyr. Gyda chyfryngau cymdeithasol yn rhan annatod o strategaethau marchnata a'r ystod o sgiliau a phrofiadau sydd eu hangen ar y rhai sy'n gweithio yn y byd cyfryngau cymdeithasol yn newid ac yn ehangu'n gyflym, sut ddylech chi strwythuro'ch tîm a sut mae cyfryngau cymdeithasol yn ffitio i mewn i dimau cynnwys a/neu farchnata ehangach?
Pwyntiau allweddol:
Blaenoriaethau recriwtio ar gyfer adeiladu tîm cyfryngau cymdeithasol effeithiol.
Tipiau ar sut i greu diwylliant gweithiol lle mae staff ar bob lefel yn barod i arwain ar arloesedd.
Mae integreiddio yn allweddol: Sut i sicrhau bod eich tîm cyfryngau cymdeithasol yn integredig o fewn eich sefydliad.
Am dros 15 mlynedd, mae Seb wedi gweithio yn y maes cyfathrebu gyda'r Llywodraeth ac wedi bod yn bennaeth ar y tîm cyfryngau cymdeithasol am bedair mlynedd.
Mae'n arwain tîm creadigol sy'n troi polisi diflas i mewn i gynnwys effeithiol.
Sesiwn sydd wedi ei ddylunio'n arbennig ar gyfer rheolwyr ac arweinwyr. Gyda chyfryngau cymdeithasol yn rhan annatod o strategaethau marchnata a'r ystod o sgiliau a phrofiadau sydd eu hangen ar y rhai sy'n gweithio yn y byd cyfryngau cymdeithasol yn newid ac yn ehangu'n gyflym, sut ddylech chi strwythuro'ch tîm a sut mae cyfryngau cymdeithasol yn ffitio i mewn i dimau cynnwys a/neu farchnata ehangach?
Pwyntiau allweddol:
Blaenoriaethau recriwtio ar gyfer adeiladu tîm cyfryngau cymdeithasol effeithiol.
Tipiau ar sut i greu diwylliant gweithiol lle mae staff ar bob lefel yn barod i arwain ar arloesedd.
Mae integreiddio yn allweddol: Sut i sicrhau bod eich tîm cyfryngau cymdeithasol yn integredig o fewn eich sefydliad.
Mae Dan wedi treulio'r deng mlynedd diwethaf yn y BBC, ar hyn o bryd fel 'Uwch Bennaeth Cyfryngau Cymdeithasol, Teledu'. Yn gyfrifol am arwain adran o 60 o weithwyr proffesiynol cyfryngau cymdeithasol mewn timau Strategaeth, Ymgyrch, Cyhoeddi a Chynhyrchu ar draws portffolio o 15 cyfrif cyfryngau cymdeithasol sy'n cynhyrchu dros 6 biliwn o sesiynau gwylio fideo y flwyddyn i gefnogi amcanion BBC iPlayer i bobl dan 35 oed yn y DU.
Yn enwog fel yr elusen dreftadaeth sy'n gofalu am fannau hanesyddol ers y 1800au, mae presenoldeb yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar gyfryngau cymdeithasol ymhell o fod yn hen ffasiwn. Mae eu cynnwys feiral a'u dull sydd wedi'i deilwra i bob platfform fel Instagram, Threads a TikTok yn dangos i ni y gall hyd yn oed brandiau etifeddol uchel eu parch ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol i ymgysylltu â chynulleidfaoedd newydd, manteisio ar trends perthnasol a chyrraedd amcanion cyfathrebu gyda chynnwys sy'n addas ar gyfer yr oes ddigidol. Ac wrth gwrs, rydym i gyd eisiau gwybod pwy sy'n llunio'r cynnwys am sgons ar Threads (IYKYK).
Pwyntiau allweddol:
Sut i deilwra eich dull i lwyfannau unigol, eu diwylliant a'u cynulleidfaoedd penodol gan gadw'n driw i lais y brand.
Sut i sicrhau bod cyfryngau cymdeithasol yn cyfrannu at nodau marchnata ehangach.
Sut i lunio cynnwys deniadol gyda phwrpas.
Danyele yw Rheolwr Cyfryngau Cymdeithasol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, elusen gadwraeth fwyaf Ewrop, sydd â dros 4 miliwn o ddilynwyr ar draws eu cyfrifon. Cyn ymuno â'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, bu Danyele yn gweithio ym maes cyfathrebu a marchnata i ystod eang o sefydliadau di-elw a masnachol.
Rydych chi'n gwybod bod eich gwaith cyfryngau cymdeithasol yn bwysig, ond sut ydych chi'n profi hynny i reolwyr ac arweinwyr cyllid? Bydd y sesiwn hon yn edrych ar y data sy'n wirioneddol bwysig: o fetrigau perfformiad i fewnwelediadau gwrando cymdeithasol, gan ddatblygu eich hyder i gyfleu effaith gwaith cyfryngau cymdeithasol mewn ffordd glir a gwerthfawr.
Byddwn yn archwilio sut i gyfuno data ansoddol a meintiol i adeiladu achos effeithiol dros eich cynnwys, eich strategaeth a'ch tîm.
Pwyntiau allweddol:
Dysgwch pa fetrigau sy'n wirioneddol bwysig wrth brofi effaith cyfryngau cymdeithasol.
Deallwch werth mewnwelediadau ansoddol trwy wrando cymdeithasol ("social listening").
Dewch i wybod sut i gyfathrebu ROI yn hyderus i reolwyr a rhanddeiliaid.
Mae Dan yn gweithio gyda brandiau ar draws Ewrop, Y Dwyrain Canol ac Affrica i droi data yn fewnwelediadau defnyddiol a gweithredol. Yn Meltwater, mae'n helpu timau i wneud synnwyr o dueddiadau cyfryngau, defnyddwyr a marchnad i gefnogi penderfyniadau gwell ac ymgyrchoedd cryfach.
Gyda chefndir mewn deallusrwydd cyfryngau a data marchnata, mae Dan yn partneru'n agos â chleientiaid er mwyn sicrhau gwerth go iawn o'r data sydd ganddynt eisoes. Mae wedi'i leoli yn swyddfa Meltwater yng Nghaerdydd.
P'un a ydych chi'n gynnar yn eich gyrfa neu'n brofiadol ac eisiau dysgu hanfodion creu cynnwys, bydd y sesiwn addysgiadol hon yn rhoi'r wybodaeth i chi i gynhyrchu cynnwys fideo ffurf fer deniadol ar gyfer ffrydiau fideo fertigol. Os ydych yn poeni na fydd hyn yn berthnasol os nad ydych chi ar TikTok, mae'n werth cofio bod gan Facebook, Instagram, LinkedIn, X, Bluesky, Pinterest, Snapchat a hyd yn oed Amazon ffrydiau fideo fertigol erbyn hyn… felly os ydych chi eisiau deall cynnwys fideo da yn yr oes fideo fertigol, dyma'r sesiwn i chi.
Cynhelir y sesiwn yma yn y Gymraeg a'r Saesneg.
Pwyntiau allweddol:
Meistroli hanfodion cynnwys gweledol sy'n ysgogi ymgysylltiad.
Dysgwch sut i optimeiddio cynnwys ar gyfer ffrydiau fertigol er mwyn denu sylw eich cynulleidfa.
Dysgwch dechnegau creu cynnwys sy'n gweithio ar draws gwahanol lwyfannau cyfryngau cymdeithasol.
Mae Cerys yn bodledwraig a chrëwr cynnwys o Gaerdydd, sydd yn angerddol dros ddangos sut beth yw bywyd fel person ifanc ag anabledd. Mae ei phodlediad, 'Unbalanced,' yn ymdrin â phynciau y mae oedolion ifanc yn mynd drwyddynt, gan roi cipolwg ar fywydau amrywiaeth o bobl gyda gwahanol 'rhwystrau bywyd', ac yn profi nad yw eich anabledd yn eich diffinio chi. Mae hi'n grëwr cyfryngau cymdeithasol angerddol, ac mae wrth ei bodd yn cysylltu â'i chymuned trwy hyn.
Nid yw'n gyfrinach bod cynnwys "UGC" yn aml yn fwy deniadol ac effeithiol na'r cynnwys y mae brandiau'n ei gynhyrchu eu hunain. Felly sut mae crëwyr cynnwys yn creu cynnwys fel hyn? Bydd y drafodaeth banel hon yn datgelu cyfrinachau ac yn mynd i fanylder ar sut i gysylltu â'r gynulleidfa yn effeithiol.
Pwyntiau allweddol:
Pam mae cynnwys crëwyr yn perfformio'n well na chynnwys brand a sut i efelychu cynnwys crëwyr llwyddiannus fel brand mewn ffordd effeithiol a dilys.
Dysgwch dechnegau creadigol ymarferol i gynhyrchu cynnwys mwy effeithiol sy'n edrych yn well.
Dysgwch sut i adeiladu cymuned o amgylch eich brand gan ddefnyddio dulliau sydd mor gyfarwydd i grëwyr cynnwys.
Gyda dros 210,000 o ddilynwyr ar TikTok a 52 miliwn o sesiynau gwylio yn 2024, mae Iwan Steffan yn grëwr cynnwys blaenllaw yng Nghymru sy'n adnabyddus am ei straeon arswyd gafaelgar, yn ogystal ag adolygiadau o fusnesau lleol a ffilmiau. Arweiniodd ei lwyddiant arlein at gomisiynu ei sioe BBC iPlayer ei hun – a enwebwyd am Wobr Llais Newydd - a gwaith cyflwyno ar S4C, gan gynnwys y gyfres Sêr Steilio a enillodd BAFTA.
Heb asiant na rheolwr, mae Iwan wedi adeiladu ei yrfa yn gyfan gwbl trwy bŵer ei bresenoldeb digidol. Mae hefyd yn rheoli cyfryngau cymdeithasol ar gyfer busnesau ledled Cymru, Lerpwl a Marbella, gan eu helpu i dyfu ac ymgysylltu ar-lein.
Nid yw'n gyfrinach bod cynnwys "UGC" yn aml yn fwy deniadol ac effeithiol na'r cynnwys y mae brandiau'n ei gynhyrchu eu hunain. Felly sut mae crëwyr cynnwys yn creu cynnwys fel hyn? Bydd y drafodaeth banel hon yn datgelu cyfrinachau ac yn mynd i fanylder ar sut i gysylltu â'r gynulleidfa yn effeithiol.
Pwyntiau allweddol:
Pam mae cynnwys crëwyr yn perfformio'n well na chynnwys brand a sut i efelychu cynnwys crëwyr llwyddiannus fel brand mewn ffordd effeithiol a dilys.
Dysgwch dechnegau creadigol ymarferol i gynhyrchu cynnwys mwy effeithiol sy'n edrych yn well.
Dysgwch sut i adeiladu cymuned o amgylch eich brand gan ddefnyddio dulliau sydd mor gyfarwydd i grëwyr cynnwys.
Ar ôl treulio dros 5 mlynedd yn teithio ac yn byw mewn gwledydd amrywiol gan gynnwys Awstralia, Ffrainc a'r Unol Daleithiau, dychwelodd Cerys i'w thref enedigol, Caerdydd, a dechrau dogfennu'r trysorau cudd sydd gan Gaerdydd a De Cymru i'w cynnig, gyda'r nod o helpu i roi Cymru ar y map.
Ddwy flynedd yn ddiweddarach, mae gan Cardiff Love List bellach ddilyniant o dros 100,000 ar draws pum platfform cyfryngau cymdeithasol, gyda 'collabs' nodedig gan gynnwys Senedd Cymru, The Royal Mint a Chanolfan Mileniwm Cymru - yn ogystal â pharhau i arddangos y mannau annibynnol sy'n gwneud Caerdydd yn ddinas fywiog ac arbennig.
Ochr yn ochr â Cardiff Love List, mae hi bellach yn defnyddio ei harbenigedd cyfryngau cymdeithasol i helpu busnesau eraill i hybu eu presenoldeb cymdeithasol trwy Love List Socials - gan bartneru â chleientiaid ledled y DU i gynhyrchu cynnwys organig sy'n eu helpu i gyrraedd eu cwsmeriaid delfrydol.
Wrth ystyried argyfwng hinsawdd heddiw, mae lleihau effaith amgylcheddol marchnata digidol yn hanfodol i frandiau cyfrifol sy'n ceisio cyd-fynd â gwerthoedd defnyddwyr a gofynion rheoleiddio. Ond, y cam cyntaf? Deall sut mae ein marchnata yn cyfrannu at faterion hinsawdd yn y lle cyntaf.
Pwyntiau allweddol:
Beth sydd angen i farchnatwyr wybod am gynaliadwyedd ac ôl troed carbon ein diwydiant.
Sut mae ein defnydd o gyfryngau cymdeithasol, marchnata a DA yn effeithio'r amgylchedd.
Yr atebion hawdd a'r newidiadau hir dymor gallwn ddechrau heddiw.
Hannah Peckham yw'r Arweinydd Marchnata Cyfryngau Cymdeithasol yn B-Corp, Zero, The Sustainable Money App yng Nghaerdydd.
Heb ofni methiant, mae Hannah yn ffynnu mewn amgylchedd lle mae adrodd straeon beiddgar a chynnwys sail pwrpasol yn bwysig. Mae'n hyrwyddo cenhadaeth Zero i wneud arian yn rym er gwell - gan gydbwyso creadigrwydd â pherfformiad, a chalon â metrigau caled.
Gyda meddylfryd sy'n rhoi'r defnyddiwr yn gyntaf a chred gref mewn data, mae hi'n gweithredu mewnwelediadau ar draws y twndis marchnata cyfan - o adeiladu ymwybyddiaeth i yrru trawsnewidiadau.
Mae profiad Hannah yn amhrisiadwy wrth lunio strategaeth sy'n cyflawni canlyniadau, yn cyd-fynd ag OKRs cynaliadwyedd ac yn ennill hyder arweinwyr busnes.
Mae'n deg dweud nad yw hawliau ac ystyriaethau cyfreithiol ar frig rhestr ystyriaethau llawer o frandiau pan mae'n nhw'n postio cynnwys, ac mae nifer o frandiau wedi postio cynnwys na ddylai fod wedi'i bostio - naill ai'n fwriadol neu'n anfwriadol.
Wrth gasglu adborth o gynhadledd 2024, roedd nifer fawr wedi awgrymu sesiwn ar yr ystyriaethau cyfreithiol wrth bostio ar gyfryngau cymdeithasol, felly rydyn ni'n gwybod bod hwn yn bwnc hynod bwysig y mae angen ei drafod yn fwy.
Byddwn yn trafod hawlfraint a'r risgiau cudd sy'n ymwneud â phostio cynnwys bob dydd fel memes. Byddwn ni hefyd yn trafod y rheolau sy'n ymwneud ag ymgyrchoedd dylanwadwyr. Gallwch ddisgwyl awgrymiadau ymarferol i'ch helpu i fod yn ymwybodol o'r risgiau o ddydd i ddydd yn ogystal ag enghreifftiau o'r byd go iawn.
Pwyntiau allweddol:
Awgrymiadau ar sut i reoli'r risg o bostio gwahanol fathau o gynnwys ar gyfryngau cymdeithasol yn effeithiol - pryd ddylech chi ofyn am ganiatâd?
Diogelu eich cynnwys eich hun.
Sut i gadw at y rheolau pan yn gweithio gyda dylanwadwyr.
Mae Ilan yn gyfreithiwr yn nhîm cyfryngau Hugh James. Cyn ymuno â Hugh James, bu Ilan yn gweithio yn S4C yn ymgynghori ar ystod eang o faterion cyfreithiol, gan gynnwys trwyddedau comisiynu, cytundebau partneriaeth a chydymffurfiaeth darlledu.
Mae Ilan yn cynghori cwmnïau cynhyrchu ar draws y DU ar ystod eang o faterion cyfreithiol, gan gynnwys cytundebau cyd-gynhyrchu, cytundebau lleoliadau ffilmio, hawlfraint a materion "fair use," yn ogystal â chynnal hyfforddiant i'r sector. Mae Ilan yn aelod o RTS ac yn aelod proffesiynol o PACT.
Mae'n deg dweud nad yw hawliau ac ystyriaethau cyfreithiol ar frig rhestr ystyriaethau llawer o frandiau pan mae'n nhw'n postio cynnwys, ac mae nifer o frandiau wedi postio cynnwys na ddylai fod wedi'i bostio - naill ai'n fwriadol neu'n anfwriadol.
Wrth gasglu adborth o gynhadledd 2024, roedd nifer fawr wedi awgrymu sesiwn ar yr ystyriaethau cyfreithiol wrth bostio ar gyfryngau cymdeithasol, felly rydyn ni'n gwybod bod hwn yn bwnc hynod bwysig y mae angen ei drafod yn fwy.
Byddwn yn trafod hawlfraint a'r risgiau cudd sy'n ymwneud â phostio cynnwys bob dydd fel memes. Byddwn ni hefyd yn trafod y rheolau sy'n ymwneud ag ymgyrchoedd dylanwadwyr. Gallwch ddisgwyl awgrymiadau ymarferol i'ch helpu i fod yn ymwybodol o'r risgiau o ddydd i ddydd yn ogystal ag enghreifftiau o'r byd go iawn.
Pwyntiau allweddol:
Awgrymiadau ar sut i reoli'r risg o bostio gwahanol fathau o gynnwys ar gyfryngau cymdeithasol yn effeithiol - pryd ddylech chi ofyn am ganiatâd?
Diogelu eich cynnwys eich hun.
Sut i gadw at y rheolau pan yn gweithio gyda dylanwadwyr.
Mae Rhidian Evans yn Rheolwr Uned a Chynhyrchydd Llinell yn Orchard Media & Events, gyda phrofiad eang mewn rheoli cynyrchiadau cymhleth ar gyfer darlledu, digidol ac yn fyw. Mae'n gyfrifol am redeg prosiectau'n esmwyth, gan oruchwylio cyllidebau, amserlenni a logisteg i sicrhau bod cynyrchiadau'n cael eu cyflwyno ar amser, o fewn y gyllideb ac i'r safon uchaf.
Gan arbenigo mewn rheoli cynhyrchu, trwyddedu a chontractio, mae Rhidian yn dod â dealltwriaeth ddofn o gytundebau cyfranwyr, cliriadau hawliau a defnydd trydydd parti, gan sicrhau bod pob cynhyrchiad yn gadarn yn gyfreithiol ac yn cydymffurfio'n llawn.
Yn Orchard, mae rôl Rhidian yn ganolog i gynnal effeithlonrwydd cynhyrchu. Mae'n cyfuno rheoli prosesau trylwyr â dealltwriaeth glir o ofynion creadigol, gan ddarparu'r cyswllt hanfodol rhwng uchelgais golygyddol a chyflwyno gweithredol. Mae ei arbenigedd yn sail i allu Orchard i gyflwyno cynnwys a digwyddiadau sy'n arloesol, yn cydymffurfio ac yn barod i'w darlledu.
Mae'r cyfryngau cymdeithasol yn mynd trwy'r trawsnewidiad mwyaf ers dros ddegawd. Mae mwy a mwy o gynnwys yn cael ei bostio arlein wedi gyrru cyrhaeddiad organig i lefelau isaf erioed, tra bod fformatau newydd a deallusrwydd artiffisial yn ail siapio'r dirwedd creu cynnwys yn gyfan gwbl. Nid cadw ar draws diweddiaradau yw'r unig her - ond gwybod pa newidiadau sy'n bwysig a pha offer a thechnegau i'w dysgu heddiw i sicrhau llwyddiant yfory.
Mae'r panel hanfodol hwn yn uno tri safbwynt allweddol: strategydd cyfryngau cymdeithasol profiadol sydd â dros 11 mlynedd o brofiad, swyddog cyfryngau cymdeithasol sy'n creu a phostio cynnwys yn ddyddiol, a chynrychiolydd platfform creu cynnwys fideo AI sy'n gyrru'r chwyldro creu cynnwys. Byddant yn datgelu i ble mae'r diwydiant yn mynd a'r strategaethau tu ôl i lwyddiant brandiau sy'n cofleidio'r newidiadau hyn.
Peidiwch â cholli'r mewnwelediadau fydd yn eich helpu nid yn unig i oroesi'r newidiadau, ond i ffynnu gyda nhw.
Pwyntiau allweddol
Beth sy'n gweithio, ac yn bwysicach fyth, beth sydd ddim yn gweithio mwyach ar y cyfryngau cymdeithasol.
Tactegau deallusrwydd artiffisial ymarferol i gynyddu cynhyrchiant a chreu cynnwys yn gyflymach.
Diogelu ar gyfer y dyfodol - y strategaethau, technegau a sgiliau fydd yn hollbwysig mewn rolau cyfryngau cymdeithasol yn y dyfodol agos.
Mae Sheeza yn unigolyn profiadol iawn mewn marchnata cyfryngau cymdeithasol gyda dros 11 mlynedd o brofiad. Mae hi wedi helpu i ddatblygu ac ehangu ôl troed digidol rhai o'r brandiau B2B a B2C mwyaf ym meysydd nwyddau cartref cyflym (FMGC), teithio a thechnoleg, gan gynnwys Mars, Warner Bros. Discovery, Arla Dairy, Capri-Sun a llawer mwy.
Mae'r cyfryngau cymdeithasol yn mynd trwy'r trawsnewidiad mwyaf ers dros ddegawd. Mae mwy a mwy o gynnwys yn cael ei bostio arlein wedi gyrru cyrhaeddiad organig i lefelau isaf erioed, tra bod fformatau newydd a deallusrwydd artiffisial yn ail siapio'r dirwedd creu cynnwys yn gyfan gwbl. Nid cadw ar draws diweddiaradau yw'r unig her - ond gwybod pa newidiadau sy'n bwysig a pha offer a thechnegau i'w dysgu heddiw i sicrhau llwyddiant yfory.
Mae'r panel hanfodol hwn yn uno tri safbwynt allweddol: strategydd cyfryngau cymdeithasol profiadol sydd â dros 11 mlynedd o brofiad, swyddog cyfryngau cymdeithasol sy'n creu a phostio cynnwys yn ddyddiol, a chynrychiolydd platfform creu cynnwys fideo AI sy'n gyrru'r chwyldro creu cynnwys. Byddant yn datgelu i ble mae'r diwydiant yn mynd a'r strategaethau tu ôl i lwyddiant brandiau sy'n cofleidio'r newidiadau hyn.
Peidiwch â cholli'r mewnwelediadau fydd yn eich helpu nid yn unig i oroesi'r newidiadau, ond i ffynnu gyda nhw.
Pwyntiau allweddol
Beth sy'n gweithio, ac yn bwysicach fyth, beth sydd ddim yn gweithio mwyach ar y cyfryngau cymdeithasol.
Tactegau deallusrwydd artiffisial ymarferol i gynyddu cynhyrchiant a chreu cynnwys yn gyflymach.
Diogelu ar gyfer y dyfodol - y strategaethau, technegau a sgiliau fydd yn hollbwysig mewn rolau cyfryngau cymdeithasol yn y dyfodol agos.
Mae Matt Sweet yn arwain gwerthiannau byd-eang yn VEED.IO, platfform creu fideo sy'n cael ei bweru gan AI sy'n cefnogi brandiau i gynhyrchu cynnwys yn gyflym ac ar raddfa fawr.
Gyda dros ddegawd o brofiad mewn arweinyddiaeth gwerthu - gan gynnwys rolau allweddol yn Jellyfish - mae Matt yn dod ag arbenigedd wrth helpu timau i ddatblygu eu cyfryngau cymdeithasol, marchnata, ac eiriolaeth gweithlu trwy gynnyrch fideo arloesol.
Yn angerddol dros ddefnyddio deallusrwydd artiffisial i adrodd straeon digidol, mae Matt wedi siarad mewn cynadleddau yn fyd-eang, ble mae'n rhannu mewnwelediadau ar sut mae AI yn ail-lunio'r ffordd y mae brandiau'n ymgysylltu â chynulleidfaoedd trwy fideo.
Mae'r cyfryngau cymdeithasol yn mynd trwy'r trawsnewidiad mwyaf ers dros ddegawd. Mae mwy a mwy o gynnwys yn cael ei bostio arlein wedi gyrru cyrhaeddiad organig i lefelau isaf erioed, tra bod fformatau newydd a deallusrwydd artiffisial yn ail siapio'r dirwedd creu cynnwys yn gyfan gwbl. Nid cadw ar draws diweddiaradau yw'r unig her - ond gwybod pa newidiadau sy'n bwysig a pha offer a thechnegau i'w dysgu heddiw i sicrhau llwyddiant yfory.
Mae'r panel hanfodol hwn yn uno tri safbwynt allweddol: strategydd cyfryngau cymdeithasol profiadol sydd â dros 11 mlynedd o brofiad, swyddog cyfryngau cymdeithasol sy'n creu a phostio cynnwys yn ddyddiol, a chynrychiolydd platfform creu cynnwys fideo AI sy'n gyrru'r chwyldro creu cynnwys. Byddant yn datgelu i ble mae'r diwydiant yn mynd a'r strategaethau tu ôl i lwyddiant brandiau sy'n cofleidio'r newidiadau hyn.
Peidiwch â cholli'r mewnwelediadau fydd yn eich helpu nid yn unig i oroesi'r newidiadau, ond i ffynnu gyda nhw.
Pwyntiau allweddol
Beth sy'n gweithio, ac yn bwysicach fyth, beth sydd ddim yn gweithio mwyach ar y cyfryngau cymdeithasol.
Tactegau deallusrwydd artiffisial ymarferol i gynyddu cynhyrchiant a chreu cynnwys yn gyflymach.
Diogelu ar gyfer y dyfodol - y strategaethau, technegau a sgiliau fydd yn hollbwysig mewn rolau cyfryngau cymdeithasol yn y dyfodol agos.
I'm Dayana! I'm a social media manager and I’ve been in the world of social media for over three years now.
I’ve had the chance to work across different industries, from fitness and beauty to hospitality and recruitment. Along the way, I’ve developed growth strategies, built brilliant social media accounts, and created content that connects with audiences in meaningful ways.
Right now, I’m lucky to be surrounded by beautiful books as the Social Media Executive at The Folio Society. I’m also super passionate about social media marketing and love sharing tips on breaking into the industry, growing as a social media pro, keeping up with rapid changes, and developing as a well-rounded marketer in this ever-changing space.