Bu cynhadledd 2025 yng Ngwesty'r Vale ar gyrion Caerdydd ar 30 Medi 2025. Bydd manylion Social Media Conference Cymru 2026 yn dod allan ar ddechrau 2026.
Oherwydd natur y digwyddiad, ni allwn gynnig ad-daliadau, ond mae croeso i chi drosglwyddo'ch tocyn i rywun arall trwy roi gwybod i ni o leiaf pythefnos cyn y digwyddiad.
Gadewch i ni wybod os oes angen dehonglydd BSL arnoch chi pan rydych yn prynu'ch tocyn er mwyn i ni allu gwneud trefniadau priodol.
Yn ogystal â chyfleoedd i rwydweithio yn ystod y dydd, bydd diodydd rhwydweithio anffurfiol yn dilyn y digwyddiad.
Bydd y rhan fwyaf o'r sesiynau trwy gyfrwng y Saesneg.
Hyd yn hyn, mae Social Media Conference Cymru wedi bod yn ddigwyddiad i ddod â phobl ynghyd felly’r unig ffordd i fwynhau’r sesiynau ar hyn o bryd fydd wrth ymuno â ni yn y lleoliad.
Ebostiwch ni ar info@socialmediaconference.cymru.