Platfform
Nosweithiau anffurfiol a chyfeillgar i drafod popeth socials - rhwydweithio, dysgu a sgwrsio dros ddiod.
Nosweithiau anffurfiol a chyfeillgar i drafod popeth socials - rhwydweithio, dysgu a sgwrsio dros ddiod.
Mae Platfform yn gyfres o nosweithiau anffurfiol a chyfeillgar ledled Cymru wedi'u trefnu gan Social Media Conference Cymru.
Dim pwysau. Dim siwt a thei. Dim sleidiau corfforaethol.
Dim ond pobl go iawn yn siarad am y pethau go iawn sy'n digwydd yn y byd cyfryngau cymdeithasol - yr heriau sy'n cadw ni'n effro, y llwyddiannau bach sy'n teimlo'n fawr, a'r syniadau sydd angen lle diogel i dyfu.
Os ydych chi'n postio, yn cynllunio, neu'n poeni am gyfryngau cymdeithasol - mae hwn i chi.
Dim ots os ydych chi'n rhedeg cyfrif cwmni mawr, yn marchnata'ch busnes bach eich hun, neu'n gyfrifol am gyfryngau cymdeithasol elusen leol. Os ydych chi eisiau dysgu, rhannu, a chysylltu gyda phobl eraill sy'n deall yr un heriau, mae croeso i chi.
🗓️ 19 Mawrth 2026
⏰ 6yh-8:30yh
📍 Yr Hen Lew Du, Aberystwyth
Noson cyfrwng Cymraeg
Nosweithiau anffurfiol a chyfeillgar i drafod popeth socials - rhwydweithio, dysgu a sgwrsio dros ddiod.
Chwefror 2026 🗓️
Noson cyfrwng Saesneg
Clywsom gan siaradwyr gan gynnwys Lowri Powell o ReTHINK PR & Marketing, perchnogion busnesau lleol a mwy yn trafod pynciau amrywiol gan gynnwys sut i lwyddo ar TikTok a be sy wir yn gweithio wrth farchnata busnesau bach ar gyfryngau cymdeithasol.
Noddwyd y noson gan Mentera.
Tachwedd 2025 🗓️
Clywsom gan siaradwyr gan gynnwys Lois Eckley o Eisteddfod yr Urdd, Deio Jones o S4C, yr artist Lisa Eurgain a mwy, ar bynciau gan gynnwys dod â digwyddiadau’n fyw ar y cyfryngau cymdeithasol a sut i farchnata ar gyfer busnesau bach.
Noddwyd y noson gan Mentera.
🗓️ Chwefror 2026
Clywsom gan siaradwyr gan gynnwys Gwenan Gravell o'r Scarlets, perchnogion busnesau lleol a mwy yn trafod pynciau amrywiol gan gynnwys sefydlu brand ar TikTok a sut i farchnata ar gyfer busnesau bach.
Noddwyd y noson gan Mentera.